Pa feddwl pa 'madrodd pa ddawn?
Pwy feddwl pwy 'madrodd pwy ddawn?

1,2,(3,(4)).
Pa feddwl, pa 'madrodd, pa ddawn,
  Pa dafod all osod i maes,
Mor felus, mor helaeth, mor llawn,
  Mor gryfed ei gariad a'i ras?
Afonydd sy'n rhedeg mor gryf,
  Na dichon i bechod na bai,
Wrthsefyll yn erbyn eu llif,
  A'u llanw ardderchog didrai.

Fel fflamau angerddol o dân,
  Yw cariad f'Anwylyd o hyd;
Fe losgodd bob rhwystrau o'i flaen,
  Fe yfodd o'r afon i gyd:
Ymaflodd mewn dyn ar y llawr,
  Fe'i dygodd â'r Duwdod yn un!
Y pellder oedd
    rhyngddynt oedd fawr,
  Fe'i llanwodd â'i haeddiant ei hun.

Fe gododd i fynu ei law,
  Ymladdodd, ennillodd y dydd!
Ei holl waredigion a ddaw,
  A'i gaethion a roddir yn rhydd!
Fe 'nillodd lath goncwest trwy waed,
  Mae ganddo lywodraeth mor fawr!
Hyd eithaf trigfannau ei Dad,
  Mae'n cyrhaedd o'r nefoedd i'r llawr.

Wrth gofio'i ruddfanau'n yr ardd,
  A'i chwys fel defnynau o waed,
Aredig ar gefen mor hardd,
  A'i daraw â chleddyf ei Dad;
Ei arwain i Galfari fryn,
  A'i hoelio wrth groesbren
      o'i fodd,
Fa dafod all dewi am hyn?
  Pa galon mor galed na thodd?
Pa :: Pwy
pa :: pwy
Mor gryfed :: Mor gryf yw
Fe yfodd o'r afon :: Fe yfodd yr afon :: Fe sychodd yr afon
ruddfanau :: riddfanau :: riddfannau
A'i chwys :: Ei chwys
gefen mor :: gefn oedd mor
A'i daro :: Ei daraw
am hyn? :: am hyn!
na thodd? :: na thodd!

1-3 John Williams (Ioan ab Gwilym) 1728-1806
4 Thomas Lewis 1759/60-1842

Tonau [8888D]:
  Aliquis (<1825)
Blandford (<1825)
Bozra (John Jones 1931-99)
Edom (Thomas Evans ?-1824)
Lambeth (<1825)
  Lime House (<1829)
New Jerusalem (<1825)
Salome (Caniadau Seion 1840)

gwelir:
  Cyflawnwyd a gyfraith i gyd
  Fel fflamau angherddol o dân
  Mi godais i fyny fy llaw
  Pwy welaf o Edom yn dod
  Wrth gofio'i riddfan(n)au'n yr ardd

What thought, what utterance, what talent,
  What tongue can expound,
How sweet, how abundant, how full,
  How strong is his love and his grace?
Rivers that run so strong,
  Neither sin nor fault can
Withstand their flow,
  And they flood exceedingly unebbingly.

Like ardent flames of fire,
  Is the love of my Darling always;
He burned every obstacle before him,
  He drank all of the river:
He apprehended man on the earth,
  He brought him to God as one!
The distance that was
    between them was great,
  He filled it with his own merit.

He lifted up his hand,
  He seized, he won the day;
All his delivered ones will come,
  And the captives to be set free;
He won such a conquest through blood,
  He has such great authority,
Right unto the dwellings of his Father,
  It reaches from the heavens to the earth.

While remembering his groans in the garden,
  And his sweat like drops of blood,
Ploughed on the back so beautiful,
  And his stroke with his Father's sword;
His leading to Calvary hill,
  And his willingly being nailed
      to the wooden cross,
What tongue can keep quiet about this?
  What heart so hard that it not melt?
::
::
::
He drank ... of the river :: He drank ... the river :: He dried ... the river
:: ::
And his sweat :: His sweat
back so :: back that was so
And his stroke :: His stroke
about this? :: about this!
that it not melt? :: that it not melt!

tr. 2009 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~